Rhosneigr
Pentref syrffio poblogaidd ar yr arfordir gorllewinol gyda dau draeth tywodlyd llydan a llawer o lefydd bwyta da. Hen gyrchfan wyliau Edwardaidd sy'n dal i gadw ei swyn.

Llun: Jeff Buck, CC BY-SA 2.0
- Traethau tywodlyd (Traeth Crigyll a Thraeth Llydan) sy’n berffaith ar gyfer chwaraeon dŵr
- Hwylfyrddio, padlfyrddio a chaiacio
- Pyllau glan môr yn llawn anemonïau a chrancod meudwy
- Llwyth o gaffis a bwytai:
- Aydin’s Pizza: archebwch y Rhosneigr Special
- Mojo’s - bwyty, bar a chreperie
- Siopau pysgod a sglodion
- Oyster Catcher - tafarn fwyd ardderchog ger y twyni gyda digon o le parcio
- Anglesey Golf Club - unig gwrs golff glan môr (links) yr ynys, 5 munud i ffwrdd
Yn ardal Rhosneigr
Gwefan ↗Amseroedd y llanw: Porth Trecastell ↗Rhywbeth wedi dyddio? Golygu'r dudalen hon

