Aberffraw
Pentref hanesyddol a hen lys Tywysogion Gwynedd, gyda thwyni hardd a thraeth heb ei ddifetha.

Llun: Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0
- Teithiau cerdded braf drwy’r twyni i Draeth Mawr
- Mae’r twyni’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Pont garreg swynol o’r 1730au yn y pentref
- Oriel gelf yn y pentref. Prynwch ychydig o gelf tra byddwch chi yno
- Rheilffordd fodel yn y sied yng nghefn yr oriel
- Llys Llewelyn Cegin Bar am frecwast
- Fan goffi/hufen iâ yn y tymor prysur
- Traeth sy’n croesawu cŵn, heb gyfyngiadau
- Tawel a heddychlon - yn ddigon pell o’r maes parcio i osgoi’r torfeydd
- Sylwch: Cerrynt cryf o gwmpas y creigiau a cheg yr afon